Llifo at lwyddiant / Flowing to success
Mae gan Ysgol Gymraeg Gwenllian ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion. Mae’r ysgol yn chwarae rhan bwysig i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy gynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc.
Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os oes pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu y Sir, i sôn am y mater wrth y Swyddog Diogelu Plant.
Gall Swyddog Diogelu'r ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y
trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y Sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.
Ar adegau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio'r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Mae’r ysgol yn dilyn Protocol Sir Gaerfyrddin a phe bai cyhuddiad yn erbyn aelod o staff fe fyddai’r ysgol yn dilyn camau gweithredu’r Sir.
Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig : Mr Adam Barnett
Dirprwy Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig : Mrs Elen Thomas
Llywodraethwr Diogelu ac Amddiffyn Plant : Mrs Bev. A Owen, Mrs Rh Rees-Jones
Each member of staff at the school is responsible for the protection and safety of children at the school. If there are any concerns regarding child neglect or physical, emotional or sexual abuse, then it’s the staff’s duty, in accordance with the County’s Child Protection Procedure, to raise the matter with the School’s Child Protection Co-ordinator.
The school’s co-ordinator can confer with a professional colleague, as well as with a relevant agency, such as the Health and Social Services. Following these discussions, the School Co-ordinator may have to officially refer the child the Social Services Department, in accordance with the County’s guidelines and protocol. The Social Services are responsible for deciding whether they need to act or not.
Due to the nature of some allegations, it is not always appropriate to discuss matters with the parent before referring a child. The Social Services and the Police are responsible for investigating into the allegations.
The school follows Carmarthenshire County Council protocols and if there was an accusation against a staff member the school would follow the Carmarthenshire County Council guidance.
Designated Safeguarding & Child Protection Officer : Mr Adam Barnett
Deputy Safeguarding & Child Protection Officer : Mrs Elen Thomas
The Governors responsible for Child Protection : Mrs Bev A Owen, Mrs Rh Rees-Jones