Menu

Ysgol Gymraeg Gwenllian

Llifo at lwyddiant / Flowing to success

Anghenion Dysgu Ychwanegol / Additional Learning Needs

Fel ysgol, rydym yn anelu i ddiwallu anghenion pob plentyn drwy ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae ein 'Darpariaeth Gyffredinol' yn cynnwys:

 

• addysgu dosbarth cyfan

• gwahaniaethu effeithiol

• gwaith grŵp

• ymyriadau unigol a/neu grwpiau bach

• addasiadau priodol a rhesymol i alluogi mynediad i amgylchedd, cwricwlwm a chyfleusterau'r ysgol.

 

Rydym fel ysgol yn trin pob un plentyn fel unigolyn ac eisiau'r cyfleoedd gorau iddynt. Rydym yn cydnabod bod gan bob un o'n disgyblion fannau cychwyn gwahanol, a byddant yn symud ymlaen ar eu taith drwy'r ysgol ar gyfraddau gwahanol ac mewn gwahanol ffyrdd. Yn ystod eu hamser yn Ysgol Gymraeg Gwenllian, bydd y rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd disgwyliedig yn eu dysgu o'u mannau cychwyn eu hunain. 

 

Os nad yw plentyn yn symud ymlaen, byddwn yn casglu arsylwadau, yn defnyddio data asesu ac yn ceisio cydweithio ag asiantaethau / gweithwyr proffesiynol allanol i nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. Cesglir ystod o dystiolaeth dros amser, gan gynnwys:


 • monitro cynnydd dros gyfnod penodol

• asesiadau safonedig

• data arsylwadol

• offer asesu, fframweithiau a holiaduron

• asesiadau ffurfiannol o ddysgu dydd i ddydd

• asesiadau gan asiantaethau eraill e.e., Pediatregydd.

 

Nodweddir plentyn nad yw'n symud ymlaen yn ei ddysgu gan gynnydd sydd:

 

• yn llawer arafach na'u cyfoedion sy'n dechrau o'r un llinell sylfaen,

• nad yw'n cyfateb i gyfradd cynnydd flaenorol neu well,

• nid yw'n cau, nac yn ehangu, y bwlch cyrhaeddiad rhwng y plentyn a'i gyfoedion, er gwaethaf y cymorth sydd â'r nod o gau'r bwlch hwnnw.

 

 

As a school we aim to meet the needs of all children through high quality teaching and learning provision. Our ‘Universal Provision’ includes:

 

  • whole class teaching
  • effective differentiation
  • group work
  • individual and/or small group interventions
  • appropriate and reasonable adjustments to enable access to the school environment, curriculum and facilities.

At Ysgol Gymraeg Gwenllian we aim to treat each child as individuals, each with their own learning needs. We recognise that all of our pupils have different starting points, and will progress on their journey through the school at different rates and in different ways. During their time at Ysgol Gymraeg Gwenllian, most children will make expected progress in their learning from their own baseline. If a child is not progressing, we will gather observations, use assessment data and look to work collaboratively with outside agencies / professionals to identify any additional learning needs. A range of evidence will be gathered over time, including:

 

  • monitoring progress over measured periods
  • standardised assessments
  • observational data
  • assessment tools, frameworks and questionnaires
  • formative assessments of day to day learning
  • assessments from other agencies e.g., Paediatrician.

 

 A child not moving forward in their learning is characterised by progress which:

 

  • is significantly slower than that of their peers starting from the same baseline,
  • does not match or better previous rate of progress,
  • does not close, or widens, the attainment gap between the child and their peers, despite the provision of support aimed at closing that gap.

Anghenion Dysgu Ychwanegol - Animeiddiad i egluro'r system newydd i blant, pobl ifanc a rhieni

Additional Learning Needs - An animation explaining the new system for parents and young people

Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael ei rhoi ar waith rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.

Mae'r canllaw hwn yn egluro sut y bydd rhai plant yn symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022.

 

Beth yw ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol?

Mae plant a phobl ifanc ag ADY angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Byddai hyn oherwydd y rhesymau a ganlyn:

  • maent yn ei chael hi'n anoddach dysgu na phlant eraill o'r un oedran
  • mae ganddynt anabledd sy'n golygu na allant ddefnyddio, neu eu bod yn ei chael hi'n anodd defnyddio, cyfleusterau ar gyfer dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg lleol

Nid oes gan rai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol mewn meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion (UCD) neu goleg ADY. Efallai mai’r cyfan sydd ei angen ar y plant neu'r bobl ifanc hyn yw rhywfaint o help i ddal i fyny.

Gelwir y cymorth ychwanegol a roddir i blant ag ADY i'w helpu i ddysgu yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys mewn cynllun cymorth o'r enw cynllun datblygu unigol (CDU).

Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn sy'n iau na 3 oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer person 3 oed neu hŷn yw addysg neu hyfforddiant mewn meithrinfa, ysgol, UCD neu goleg gan amlaf sy'n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn sydd ar gael i'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran.

Mae hyn yn golygu bod darpariaeth ddysgu ychwanegol yn gymorth sydd ar gael mewn meithrinfeydd, ysgolion neu golegau gan amlaf, ond nid yw'r rhan fwyaf o blant neu bobl ifanc o'r un oedran angen defnyddio'r cymorth hwn i wneud cynnydd.

Gall darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu gan athrawon, cynorthwywyr addysgu neu diwtoriaid. Gall gael ei darparu hefyd gan wasanaethau arbenigol fel therapydd lleferydd ac iaith neu athrawon pobl fyddar.

 

Beth sy'n newid i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig?

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd mae plant a phobl ifanc ag AAA yn cael eu cynorthwyo. Gelwir y cymorth mae plant ag AAA yn ei dderbyn yn ddarpariaeth addysgol arbennig.

Rydym yn disodli'r hen system (AAA) gyda'r system ADY newydd. Mae'r system ADY newydd yn cryfhau pwysigrwydd darparu gwybodaeth a chymorth fel bod plant, pobl ifanc a'u rhieni yn cymryd cymaint o ran â phosibl yn y broses ac mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Pan gyflwynir y system ADY, byddwch yn sylwi ar y newidiadau canlynol i'r hyn y mae pethau'n cael eu galw:

  • bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) yn dod yn anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • bydd cydlynwyr anghenion addysgol arbennig (CAAA) yn dod yn gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
  • bydd darpariaeth addysgol arbennig yn dod yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
  • bydd cynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (CAU), datganiadau a chynlluniau dysgu a sgiliau yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw cynllun datblygu unigol (CDU)

Bydd rhai pethau yn aros yr un fath. Mae bod ag ADY yr un fath â bod ag AAA. Mae hyn yn golygu os oes gan blentyn neu berson ifanc AAA, mae'n debygol y bydd ganddo ADY hefyd. Ac mae'n golygu y bydd y ddarpariaeth addysgol arbennig mae plant a phobl ifanc yn ei chael i'w helpu i ddysgu yn y feithrinfa, yr ysgol, yr UCD neu'r coleg gan fod ganddynt AAA yn parhau, os oes ei hangen o hyd, ond bydd bellach yn cael ei galw'n ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

 

Pryd a sut y bydd plant a phobl ifanc yn symud i'r system newydd

Bydd symud plant o'r system AAA i'r system ADY yn digwydd dros 3 blynedd ysgol i sicrhau bod digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen a llunio cynlluniau.

Bydd plant yn symud o'r system AAA i'r system ADY mewn grwpiau. Y grŵp cyntaf sy'n symud o'r system AAA i'r system ADY yw:

  • plant sy’n mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ac sydd ag AAA gyda chymorth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy
  • plant nad oes ganddynt ddatganiad AAA ac nad ydynt yn rhan o broses datganiad AAA (er enghraifft, yn disgwyl penderfyniad am asesiad AAA neu'n disgwyl penderfyniad am ddatganiad AAA)

Mae'r tabl isod yn dangos pryd mae rhaid i blant yn y grŵp cyntaf gael eu symud i'r system ADY yn seiliedig ar eu grŵp blwyddyn ysgol.

Tymhorau'r gwanwyn a'r haf, blwyddyn ysgol 2021 i 2022Meithrin Blynyddoedd 1 neu 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 neu Flwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2022 i 2023Meithrin Blynyddoedd 1 a 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 5, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2023 i 2024Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 ac unrhyw ddisgyblion eraill ag AAA ar 1 Ionawr 2022 sydd heb symud i'r system ADY yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o'i gweithredu

Rhaid i feithrinfeydd awdurdod lleol, ysgolion awdurdod lleol, UCDau ac awdurdodau lleol symud y plant hyn o'r system AAA i'r system ADY rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2024.

Os yw eich plentyn yn un o'r grwpiau blwyddyn sy'n symud i'r system ADY newydd dros dymor y gwanwyn a'r haf 2022, bydd eich meithrinfa awdurdod lleol, eich ysgol awdurdod lleol, eich uned cyfeirio disgyblion (UCD) neu eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybodaeth i chi am bryd a sut y bydd hyn yn digwydd. 5

Bydd grwpiau eraill o blant, fel y rhai sydd â datganiadau AAA, yn symud o'r system AAA i'r system ADY rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllaw am hyn yn ddiweddarach.

Os nad yw meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol, UCD neu awdurdod lleol yn symud plentyn erbyn 30 Awst yn y flwyddyn y maent i fod i'w symud, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst. Byddant yn symud y plentyn drwy roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU.

Mae hyn yn golygu os yw plentyn, er enghraifft, i fod i symud i'r system ADY yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf yn y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 ac nad ydynt wedi cael hysbysiad CDU na hysbysiad dim CDU erbyn 30 Awst, bydd yn symud i'r system ADY ar 31 Awst 2022.

Yna, rhaid i'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol neu'r UCD wneud penderfyniad ynghylch a oes gan y plentyn ADY ac, os oes angen, llunio CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i 31 Awst 2022. Mae gan awdurdod lleol 12 wythnos o 31 Awst 2022 i wneud penderfyniad ac, os oes angen, i lunio CDU.

 

Sut mae meithrinfeydd awdurdod lleol, ysgolion awdurdod lleol, UCDau ac awdurdodau lleol yn symud plant i'r system ADY

Mae'r system ADY newydd yn pwysleisio mwy o gydweithio, a phwysigrwydd darparu cymorth a gwybodaeth i sicrhau bod plant, a'u teuluoedd a phobl ifanc yn cymryd cymaint o ran â phosibl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Dyma pam y bydd ysgolion, UCDau neu awdurdodau lleol yn gweithio gyda chi, eich plentyn a gweithwyr proffesiynol eraill gan ddilyn y dull sy'n canolbwyntio ar unigolion i benderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion eich plentyn.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn symud o'r system AAA i'r system ADY pan fydd eu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol, UCD neu awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU iddynt.

Meithrinfeydd, ysgolion ac UCDau fydd yn rhoi'r rhan fwyaf o'r hysbysiadau CDU ond weithiau bydd awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU.

Bydd awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau CDU i blant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg (fel UCD ac ysgol).

Mae hysbysiad CDU yn golygu bod meithrinfa, ysgol, UCD neu awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan blentyn ADY ac y bydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn.

Mae'n debygol y bydd gan blant ag AAA â darpariaeth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy ADY.

Ar adegau, bydd plentyn a oedd ag AAA yn cael hysbysiad o'r enw hysbysiad dim CDU. Mae hysbysiad dim CDU yn golygu bod y feithrinfa, yr ysgol, yr UCD neu'r awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY ac na fydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn. Efallai y bydd plant yn cael hysbysiad dim CDU am fod eu hanghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth arnynt mwyach i ddysgu.

 

Sut y gall plant a’u rhieni ofyn i blentyn symud i’r system ADY

Gall plant yn y grŵp cyntaf sy'n symud o'r system AAA i'r system ADY, a'u rhieni, ofyn am gael symud i'r system ADY ar unrhyw adeg ar ôl 1 Ionawr 2022.

Gall plant a'u rhieni wneud hyn drwy ofyn i'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu'r awdurdod lleol eu symud i'r system ADY drwy roi hysbysiad. Gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig (megis mewn e-bost neu neges) neu ar lafar (megis yn bersonol neu mewn galwad ffôn).

Rhaid i'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU o fewn 15 diwrnod ysgol. Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith.

Weithiau bydd awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY i symud plentyn i'r system ADY. Rhaid i'r awdurdod lleol wneud hyn mewn 10 diwrnod gwaith.

 

Symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY

Mae rhai newidiadau mewn amgylchiadau sy'n golygu y bydd plentyn yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY. Pan fydd hyn yn digwydd, dylech ddisgwyl clywed gan eich meithrinfa awdurdod lleol, eich ysgol awdurdod lleol, eich UCD neu eich awdurdod lleol.

Mae hyn yn golygu nad oes angen rhoi hysbysiad i blentyn a'i riant i'r plentyn symud o'r system AAA i'r system ADY.

Bydd plentyn yn symud yn awtomatig os oedd mewn meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ar 1 Ionawr 2022 ac yna:

  • wedi dod yn ddisgybl cofrestredig neu'n fyfyriwr ymrestredig mewn lleoliad addysg arall, megis ysgol arall neu UCD (wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg)
  • wedi dechrau derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru
  • wedi rhoi'r gorau i fynd i'r ysgol (nid yw hyn yn cynnwys os oedd plentyn wedi rhoi'r gorau i fynd i'r ysgol ar ddiwedd ei gyfnod yn y feithrinfa i symud i ysgol gynradd neu wedi rhoi'r gorau i fynd ar ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol gynradd i fynd i ysgol uwchradd)

Os oedd plentyn yn derbyn gofal ar 1 Ionawr 2022 ac wedi stopio derbyn gofal, bydd yn symud i'r system newydd yn awtomatig.

Hefyd, os oedd plentyn yn mynychu 2 leoliad addysg (fel 2 ysgol neu UCD ac ysgol) ar 1 Ionawr 2022, ac yna dim ond un lleoliad addysg, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY.

Mae symud yn awtomatig yn golygu bod rhaid i'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu'r awdurdod lleol wneud penderfyniad ynghylch a oes gan blentyn ADY pan fo'n credu y gallai fod gan blentyn ADY. Os yw'n penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid i'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu'r awdurdod lleol roi CDU i'r plentyn.

 

Grwpiau o blant yn symud rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024

Bydd y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc yn symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024:

  • plant sydd ag AAA ac nad ydynt yn mynd i feithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol na UCD
  • plant sydd ym Mlwyddyn 11
  • plant sydd â datganiad AAA neu gynllun addysg a gofal iechyd (EHCP)
  • plant sy’n rhan o broses datganiad AAA

Bydd amserlen ar gyfer symud y plant a'r bobl ifanc hyn o'r system AAA i'r system ADY yn cael ei chyhoeddi yn 2022.

 

Beth os nad wyf yn cytuno â phenderfyniad?

Weithiau, gall anghytundebau godi. Y rhan fwyaf o'r amser, gellir datrys anghytundebau drwy drafod y broblem gyda'r ysgol, UCD neu’r awdurdod lleol. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth, dylech roi gwybod am hynny cyn gynted â phosibl. Siaradwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr ysgol cyn gynted ag y bydd gennych bryderon. Drwy gydweithio, bydd cyfleoedd i drafod unrhyw broblemau a’u datrys yn gynnar.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, yna siaradwch â'ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach.

Gallwch hefyd apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, mae llawer o sefydliadau gwirfoddol sy'n helpu plant a'u teuluoedd. Dyma rai o’r prif sefydliadau:

  • SNAP Cymru
  • Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru

Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion gan eich awdurdod lleol neu drwy anfon e-bost at Lywodraeth Cymru.

The additional learning needs (ALN) system is being put in place between September 2021 and August 2024.

This guide explains how some children will move to the ALN system between September 2021 and August 2022.

Separate guidance will be published that explains how other children and young people will move to the ALN system.

 

What is ALN and additional learning provision?

Children and young people with ALN need extra support to learn. This would be because they:

  • find it harder to learn than other children of the same age
  • have a disability that means they cannot use, or find it difficult to use, facilities for learning in the local nursery, school or college

Some children and young people who need extra help in nursery, school, pupil referral unit (PRU) or college do not have an ALN. This may be children or young people who just need some help catching up.

The extra support given to children with ALN to help them learn is called additional learning provision (sometimes called ALP). This must be written into a support plan called an individual development plan (IDP).

Additional learning provision for a child aged under 3 means educational provision of any kind.

Additional learning provision for a person aged 3 or over is education or training usually in a nursery, school, PRU or college that is additional to, or different from, what is made available to most children of the same age.

This means that additional learning provision is support that is made available usually in nursery, schools or colleges but most children or young people of the same age do not need to use this support to make progress.

Additional learning provision can be delivered by teachers, teaching assistants or tutors. It can also be delivered by specialist services like a speech and language therapist or teachers of the deaf.

 

What is changing for children and young people with special educational needs?

The Welsh Government is changing the way children and young people with SEN are supported. The support children with SEN receive is called special educational provision (sometimes called SEP).

We are replacing the old (SEN) system with the new ALN system. The new ALN system strengthens the importance of providing information and support so that children, young people and their parents are involved as much as possible in the process and in decisions that affect them.

When the ALN system is introduced you will notice the following changes to what things are called:

  • special educational needs (SEN) becomes additional learning needs (ALN)
  • special educational needs co-ordinators (SENCos) become additional learning needs co-ordinators (ALNCos)
  • special educational provision (SEP) becomes additional learning provision (ALP)
  • plans such as individual education plans (IEPs), statements and learning and skills plans (LSPs) will be replaced with a new plan called an individual development plan (IDP)

Some things have not changed. Having ALN is the same as having SEN. This means that if a child or young person has SEN they are also likely to have ALN. And it means the special education provision children and young people get to help them learn at nursery, school, PRU or college because they have SEN will continue, if it is still required, but it will now be called additional learning provision.

 

When and how children and young people will move to the new system

Moving children from the SEN system to the ALN system will take place over 3 school years to make sure there is enough time for nurseries, schools, PRUs and local authorities to discuss the support needed and to prepare plans.

Children will move from the SEN system to the ALN system in groups. The first group moving from the SEN system to the ALN system are children who:

  • go to a local authority nursery, local authority school or PRU and have SEN with support through early years action, early years action plus, school action or school action plus
  • do not have a SEN statement and are not involved in an SEN statement process (such as waiting for a decision about an SEN assessment or waiting for a decision about an SEN statement)

The table below shows when children in the first group must be moved to the ALN system based on their school year group.

Spring and summer terms of the school year 2021 to 2022Nursery Years 1 or 2, Year 1, Year 3, Year 5, Year 7 or Year 10
School year 2022 to 2023Nursery Years 1 and 2, Year 1, Year 5, Year 9 and Year 10
School year 2023 to 2024Year 4 and Year 8 and any other pupils with SEN on 1 January 2022 who did not move to the ALN system during the first and second years of implementation

Local authority nurseries, local authority schools, PRUs and local authorities must move these children from the SEN system to the ALN system between January 2022 and August 2024.

If your child is in one of the year groups moving to the new ALN system over the spring and summer terms 2022, your local authority nursery, local authority school, pupil referral unit (PRU) or local authority will get in touch with you and provide you with information on when and how this will happen.

Other groups of children, such as those with statements of SEN, will move from the SEN system to the ALN system between September 2022 and August 2024. The Welsh Government will issue guidance about this later.

If a local authority nursery, local authority school, PRU or local authority does not move a child by 30 August in the year they are supposed to move them, the child will automatically move to the ALN system on 31 August. They will move the child by giving either an IDP notice or a no IDP notice.

This means that if a child is, for example, due to move to the ALN system during the spring and summer terms of the school year 2021 to 2022 and they have not had an IDP notice or a no IDP notice by 30 August they will move to the ALN system on 31 August 2022.

The local authority nursery, local authority school or the PRU must then make a decision about if the child has ALN and, if required, prepare an IDP within 35 school days from 31 August 2022. A local authority has 12 weeks from 31 August 2022 to make a decision and, if required, prepare an IDP.

 

How local authority nurseries, local authority schools, PRUs and local authorities move children to the ALN system

The new ALN system emphasises increased collaboration, and the importance of providing support and information to ensure that children, and their families and young people participate as fully as possible in decisions that affect them. This is why schools, PRUs or local authorities will work with you, your child and other professionals following the person-centred approach to decide how best to meet your child’s needs.

Most children will move from the SEN system to the ALN system when their local authority nursery, local authority school, PRU or local authority gives them an IDP notice.

Nurseries, schools and PRUs will give most of the IDP notices but sometimes a local authority will give an IDP notice.

Local authorities will give IDP notices to children who are looked after and children who are registered at more than one education place (such as a PRU and a school).

An IDP notice means a nursery, school, PRU or local authority has decided a child has ALN and an IDP will be made for the child.

It is likely that children who had SEN with provision via early years action, early years action plus, school action or school action plus will have ALN.

On occasion, a child who had SEN will be given a notice called a no IDP notice. A no IDP notice means the nursery, school, PRU or local authority has decided the child does not have ALN and an IDP will not be made for the child. For example, children may be given a no IDP notice because their needs have changed and they no longer need additional support to learn. 6

How children and their parents can ask for a child to move to the ALN system

Children in the first group moving from the SEN system to the ALN system, and their parents, can ask to move to the ALN system at any time after 1 January 2022.

Children and their parents can do this by asking the local authority nursery, local authority school, PRU or local authority to move them to the ALN system by issuing a notice. This can be done in writing (such as in an email or message) or verbally (such as in person or in a phone call).

The local authority nursery, local authority school or PRU must issue an IDP notice or a no IDP notice within 15 school days. A local authority must issue an IDP notice, or a no IDP notice within 15 working days.

Sometimes a local authority will issue an ALN notice to move a child to the ALN system. The local authority must do this in 10 working days.

 

Automatically moving from the SEN system to the ALN system

There are some changes of circumstances that mean a child will automatically move from the SEN system to the ALN system. When this happens you should expect to hear from your local authority nursery, local authority school, PRU or local authority.

This means that a notice does not need to be given to a child and their parent for the child to move from the SEN system to the ALN system.

A child will automatically move if they were at a local authority nursery, local authority school or PRU on 1 January 2022 and then:

  • became a registered pupil or an enrolled student at another education place, such as another school or PRU (became registered at more than one education place)
  • became looked after by a local authority in Wales
  • stopped going to the school (this does not include if a child stopped going to the school at the end of nursery to move to primary or stopped going at the end of primary school to attend senior school)

If a child was looked after on 1 January 2022 and stopped being looked after, they will automatically move to the new system.

Also, if a child was going to 2 education places (such as 2 schools or a PRU and a school) on 1 January 2022, and then only went to one education place, the child will automatically move to ALN system.

Automatically moving means the local authority nursery, the local authority school, the PRU or the local authority must make a decision about if a child has ALN when it thinks a child might have ALN. If it decides the child has ALN, the local authority nursery, the local authority school, the PRU or the local authority must give the child an IDP.

 

Groups of children moving between September 2022 and August 2024

The following groups of children and young people will move to the ALN system between September 2022 and August 2024:

  • children who have SEN and do not go to a local authority nursery, local authority school or PRU
  • children who are in Year 11
  • children who have a statement of SEN or an education and healthcare plan (EHCP)
  • children who are involved in an SEN statement process

A timetable for moving these children and young people from the SEN system to the ALN system will be published in 2022.

 

What if I don’t agree with a decision?

Sometimes, disagreements can arise. Most of the time, disagreements can be sorted out by discussing the problem with the school, PRU or local authority. If you are unhappy with anything, you should make your views known as soon as possible. Always speak to the school's additional learning needs coordinator (ALNCo) as soon as you have worries or concerns. Working together will provide opportunities to discuss any problems and help them to be sorted out at an early stage.

If you are still unhappy, then you should talk to your local authority to seek further advice.

You can also appeal to the Education Tribunal for Wales.

If you need more support, there are many voluntary organisations that help children and their families. Some of the main organisations are listed here:

  • SNAP Cymru
  • the National Deaf Children’s Society
  • National Autistic Society Cymru
  • the Royal National Institute of Blind People (RNIB) Cymru
  • the Children’s Commissioner for Wales

You can also get more details from your local authority or email the Welsh Government.

Top