Menu

Ysgol Gymraeg Gwenllian

Llifo at lwyddiant / Flowing to success

Presenoldeb / Attendance

Presenoldeb a Phrydlondeb


Rydym yn disgwyl i bob plentyn fynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon. Gall hyd yn oed absenoldeb byr amharu ar addysg. Peidiwch â chadw eich plentyn o'r ysgol oni bai am salwch, symptomau COVID19 neu argyfwng teuluol. Mae disgwyl i chwi gysylltu â'r ysgol ar y diwrnod cyntaf o salwch.


Rydym yn disgwyl bod y disgyblion yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon. Mae hyn yn bwysig iawn i ddatblygiad addysgol yr unigolyn ac i drefniant yr ystafell ddosbarth a'r ysgol. Mae Clwb Brecwast am ddim hefyd ar gael i gynorthwyo rhieni, mae'r clwb yn agor am 8yb.


Rydym yn dosbarthu manylion ynglyn â gweithgareddau, diwrnodau hyfforddiant a
gwyliau ar ddechrau pob blwyddyn. Rydym hefyd yn cyd-weithio'n agos iawn gyda swyddogion presenoldeb y sir ac rydym yn cyfeirio teuluoedd i'r gwasanaeth os mae presenoldeb isel yn parhau.

 

Gweler isod ffurflen Absenoldeb Gwyliau. Gofynnwn yn garedig i rieni, lle yn bosib, gwneud trefniadau ar gyfer eu gwyliau teuluol yn ystod adegau gwyliau ysgol ac nid yn ystod y tymor ysgol. Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y ffurflen 4 wythnos cyn eich absenoldeb.

 

Os oes unrhyw broblem, cysylltwch â'r ysgol er mwyn i ni geisio helpu.

 

Attendance and Punctuality


We expect all children to attend school regularly and punctually. Even a short absence can impair on learning. Except for illness, COVID19 symptoms or a family emergency, please ensure your child attends school. You are required to contact the school to inform us of your child’s absence on the first day of absence.


We expect children to arrive at school punctually as this is vital for your child’s educational development and for the school and classroom organisation. We also operate a free Breakfast Club at the school from 8am to support parents.


Details of holidays, activities and training days are distributed to parents at the beginning of each academic year. We work very closely with the local authority attendance officers and family referrals are made to the service if poor attendance continues.

 

Please find below our holiday form. We kindly ask parents, where possible, to take holidays during school holidays and not during term time. The completed form should be submitted at least four weeks before the proposed period of absence.

 

If you have any difficulties regarding getting your child to school on time please feel free to discuss with the us.

Top