Llifo at lwyddiant / Flowing to success
Mae brecwast wedi hen gael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd, gwell canolbwyntio, a gwell ymddygiad yn ein hysgolion.
Mae'n hollbwysig ein bod yn bwyta brecwast gan nad ydym ar ein gorau hebddo. Mae brecwast yn helpu i roi hwb i'r corff ac yn rhoi tanwydd i'r ymennydd ar ôl bod yn cysgu am oriau. Gan ein bod yn defnyddio egni yn ystod y nos mae angen gofalu ein bod yn cael tanwydd newydd cyn gynted â phosibl ar ôl dihuno yn y bore er mwyn cychwyn y diwrnod yn y modd gorau posibl.
Mae'r Clwb Brecwast yn agor am 8.00am. Gall disgyblion ddewis amryw o ddewisiadau i frecwast, er enghraifft:
(Sylwer y gallai ein bwydlen frecwast amrywio rhywfaint o bryd i'w gilydd)
Yn ogystal â chynnig brecwast iach rydym yn trefnu cystadlaethau a brecwastau ar thema arbennig gydol y flwyddyn, ynghyd ag annog y disgyblion i gymdeithasu yn ystod y sesiwn. Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim fel bod pawb yn cael cyfle i fod ar eu gorau ar ddechrau'r diwrnod ysgol!
Breakfast is recognised as the most important meal of the day and evidence shows that a healthy breakfast is linked to better health, concentration and behaviour in our schools.
It is vital that we eat breakfast as without it we do not perform to the best of our ability. Breakfast helps to kick start the body and fuel the brain after hours of sleep. During the night we use energy which we need to restore as soon as possible after waking in the morning to ensure the best start to the day.
Our breakfast club opens at 8:00am. Pupils can choose from a range of options for breakfast for example:
(Please note, at times there may be a slight variance in our breakfast menu)
Not only do we offer a healthy breakfast but we also organise competitions, themed breakfasts throughout the year and encourage pupils to socialise together during the session. We are offering a free service giving children the opportunity to have a great start to the school day!