Llifo at lwyddiant / Flowing to success
Yn Ysgol Gymraeg Gwenllian mae gofal ar gael o 08:00 tan 17:10.
At Ysgol Gymraeg Gwenllian care is available from 08:00 until 17:10.
Clwb Brecwast / Breakfast Club
Mae’r ysgol yn cynnig brecwast yn rhad ac am ddim i holl ddisgyblion llawn amser yr ysgol. Mae'r Clwb Brecwast yn agor am 8.00y.b. ac yn derbyn plant hyd nes 8.30y.b. Mae disgyblion yn cael eu goruchwylio hyd nes bod yr ysgol yn dechrau. Ar ôl cael eu brecwast bydd cyfle iddynt chwarae gemau/gemau bwrdd ac i arlunio.
The school operates a free breakfast club for all full-time pupils. The Breakfast Club opens at 8.00a.m and accept children up until 8.30a.m. The children are supervised by trained staff during and after breakfast up until the time they start school. When they have finished breakfast they will have an opportunity to play games, play and draw.
Clwb Gofal (Ar ôl ysgol) / After-school care Club
Mae gofal ar ôl ysgol yn cael ei gynnal gan Glybiau Menter Cwm Gwendraeth ar safle'r ysgol.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen isod neu ffoniwch yr ysgol. Oriau'r clwb: 15:15 - 17:10.
The After-school care club at Ysgol Gymraeg Gwenllian is run by Menter Cwm Gwendraeth on our school site. For more information or to book a space for your child please click the link below. Opening times: 15:15 - 17:10.