English below...
Mae’n hwyl rhannu llyfr â’ch plentyn! Mae’n amser i ddod yn agos, i chwerthin ac i siarad â’ch gilydd – ac mae hefyd yn gallu rhoi dechrau gwych mewn bywyd i blant, a’u helpu nhw i ddod yn ddarllenwyr gydol oes.
Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus ynglŷn â darllen yn uchel neu rannu llyfrau, peidiwch â phoeni – does yr un ffordd gywir neu anghywir o fwynhau stori gyda’ch gilydd!
Wrth i’ch plentyn ddod ychydig yn hŷn
Mae rhannu llyfrau lluniau’n gallu bod yn hwyl fawr – ond peidiwch â phoeni os ydy sylw’ch plentyn yn crwydro, os yw’n cnoi’r llyfr neu os yw’n mynd i ffwrdd i rywle arall – mae hynny’n hollol normal. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi lawer o amser yn eich diwrnod prysur – mae rhyw ychydig o funudau’n gwneud gwahaniaeth anferthol.
Dyma rai awgrymiadau eraill i’ch helpu chi i fwynhau amser stori gyda’ch gilydd:
- Gofyn i’ch plentyn ddewis beth y byddai’n hoffi ei ddarllen. Bydd y stori’n fwy diddorol iddyn nhw os ydyn nhw wedi’i dewis eu hunain. (A pheidiwch â phoeni os y byddan nhw’n mynd yn ôl at yr un stori drosodd a throsodd, ychwaith!)
- Os y gallwch chi, diffoddwch y teledu, y radio a’r cyfrifiadur. Mae’n haws i’r ddau ohonoch chi fwynhau’r stori heb unrhyw beth arall i dynnu sylw.
- Eistedd yn agos at eich gilydd. Fe allech chi annog eich plentyn i ddal y llyfr ei hun a throi’r tudalennau, hefyd.
- Edrych ar y lluniau. Gallwch chi wneud mwy na dim ond darllen y geiriau ar y dudalen. Efallai fod yna rywbeth doniol yn y lluniau y gallwch chi bwffian chwerthin amdano gyda’ch gilydd, neu efallai fod eich plentyn yn mwynhau dyfalu beth fydd yn digwydd nesaf.
- Gofyn cwestiynau a siarad am y llyfr. Mae llyfrau lluniau’n gallu bod yn ffordd wych i drafod ofnau a phryderon eich plant, neu i’w helpu i ddelio â’u hemosiynau. Rhowch gyfle iddyn nhw siarad, a holwch nhw ynglŷn â sut y maen nhw’n teimlo am y sefyllfaoedd yn y stori.
- Cael hwyl! Does yr un ffordd gywir neu anghywir o rannu stori – cyn belled â’ch bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl. Peidiwch â bod ofn actio sefyllfaoedd neu ddefnyddio lleisiau doniol... bydd eich plantos wrth eu boddau!
Annog cariad at ddarllen
Wrth i blant fynd yn hŷn, gyda llawer o weithgareddau eraill yn cystadlu am eu hamser, sut allwch chi eu hannog nhw i wneud amser i ddarllen?
Dyma rai o’n syniadau ni:
- Darllen eich hun! Dim ots beth rydych chi’n ei ddarllen – papur newydd neu gylchgrawn, edrych trwy lyfr coginio, darllen llawlyfr cyfrifiadur, mwynhau barddoniaeth neu golli’ch hun mewn stori ramant neu nofel dditectif. A chael eich plant i ymuno â phethau – os ydych chi’n coginio, tybed allen nhw ddarllen y rysáit? Os ydych chi’n gwylio’r teledu, tybed allan nhw ddarllen y rhestriadau?
- Rhoi llyfrau fel anrhegion. Ac annog eich plant a’u ffrindiau i gyfnewid llyfrau â’i gilydd – bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddarllen straeon newydd, a’u cael nhw i gyd yn siarad am y pethau y maen nhw’n eu darllen.
- Mynd i’r llyfrgell leol gyda’ch gilydd. Mae hi wastad yn hwyl dewis llyfrau newydd i’w darllen, a chadwch lygad yn agored am ddigwyddiadau awduron arbennig yn y llyfrgell neu siopau llyfrau lleol - mae plant wrth eu boddau’n cael cyfarfod â’u hoff awduron. Mae Jacqueline Wilson ac Anthony Horowitz bob amser â chiwiau am lofnod sy’n filltiroedd o hyd!
- Annog plant i gario llyfr gyda nhw trwy’r amser. Fel hynny, byddan nhw byth wedi diflasu (mae hyn yn rhywbeth y gallwch chithau ei wneud hefyd!)
- Cael silff lyfrau i’r teulu. Os yn bosibl, fe allech chi hefyd gael silffoedd llyfrau yn ystafelloedd gwely’ch plant.
- Dal ati i ddarllen gyda’ch gilydd. Efallai fod y plant yn hŷn, ond dydy hynny ddim yn golygu bod yn rhaid ichi roi’r gorau i rannu straeon – efallai y gallech chi roi cynnig ar gyfres Harry Potter neu A Series of Unfortunate Events.
- Peidiwch â chynhyrfu os ydy’ch plentyn yn darllen yr un llyfr drosodd a throsodd. Y gwir ydy ein bod ni i gyd wedi gwneud hyn!
Reading with your child
Sharing a book with a child is fun! It's a time for closeness, laughing and talking together – and it can also give children a flying start in life and help them become lifelong readers.
If you’re not feeling confident about reading aloud or sharing books, don’t worry – there’s no right or wrong way to enjoy a story together.
As your child gets a bit older
Sharing picture books can be a lot of fun – but don’t worry if your child gets distracted, chews the book or wanders off… that’s perfectly normal! Don’t worry if you don’t have a lot of time in your busy day, either – just a few minutes can make a huge difference.
Here are some more tips to help you enjoy storytime together:
- Ask your child to choose what they’d like to read. They’ll feel more interested in the story if they’ve picked it out themselves. (And don’t worry if they keep returning to the same story, either!)
- If you can, turn off the TV, radio and computer. It’s easier for both of you to enjoy the story without any other distractions.
- Sit close together. You could encourage your child to hold the book themselves and turn the pages, too.
- Take a look at the pictures. You don’t just have to read the words on the page. Maybe there’s something funny in the pictures that you can giggle about together, or perhaps your child enjoys guessing what will happen next.
- Ask questions and talk about the book. Picture books can be a great way to talk through your child’s fears and worries, or to help them deal with their emotions. Give them space to talk, and ask how they feel about the situations in the story.
- Have fun! There’s no right or wrong way to share a story – as long as you and your child are having fun. Don’t be afraid to act out situations or use funny voices… your little ones will love it!
Encouraging a love of reading
As children get older, with lots of other activities competing for their time, how can you encourage them to make time for reading?
Here are some of our ideas:
- Read yourself! It doesn’t matter what it is – pick up a newspaper or magazine, take a look at a cookery book, read a computer manual, enjoy some poetry or dive into a romance or detective novel. And get your children to join in – if you’re cooking, could they read the recipe? If you’re watching TV, can they read out the listings?
- Give books as presents. And encourage your children and their friends to swap books with each other – it’ll give them a chance to read new stories, and get them all talking about what they’re reading.
- Visit the local library together. It’s always fun choosing new books to read, and keep an eye out for special author events at the library or local bookshops – children love meeting their favourite authors. Jacqueline Wilson and Anthony Horowitz always have signing queues that are miles long!
- Encourage children to carry a book at all times. That way, they’ll never be bored (this is something you can do, too!)
- Have a family bookshelf. If you can, have bookshelves in your children’s bedrooms, too.
- Keep reading together. Just because your children are older, it doesn’t mean you have to stop sharing stories – perhaps you could try the Harry Potter series or A Series of Unfortunate Events.
- Don’t panic if your child reads the same book over and over again. Let’s be honest - we’ve all done it!
Gweler linc i DarllenCo isod!! See the link to DarllenCo below!!

Mae Darllen yn Well i blant yn darparu gwybodaeth, storïau a chyngor y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant. Mae llyfrau wedi’u dewis gan weithwyr proffesiynol iechyd blaenllaw a’u cydgynhyrchu gyda phlant a theuluoedd.
Reading Well for children provides quality-assured information, stories and advice to support children’s mental health and wellbeing. Books have been chosen and recommended by leading health professionals and co-produced with children and families.